Full-Time Prentisiaeth Swyddog Marchnata Aml-Sianel – Lefel 3 – Caerdydd (Welsh Language)
Job Description
Math o Gontract: Contract Cyfnod Penodol
Lleoliad: Caerdydd
Cyflog: £21,840
Mae prentisiaeth yn y BBC yn gyfle i chi roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Fel un o’r sefydliadau mwyaf creadigol a datblygedig o ran technoleg yn y byd dros y 100 mlynedd diwethaf, mae gyrfa yn y BBC yn golygu y cewch gyfle i ddysgu gan y gweithwyr proffesiynol mwyaf profiadol ac uchel eu parch yn y busnes.
Ydych chi’n frwd dros deledu a chyfryngau cymdeithasol? Ydych chi’n mwynhau datrys problemau a dadansoddi data? Ydych chi’n arbennig o dda am ddatblygu a chynnal ymgyrchoedd diddorol? Os felly, efallai mai dyma’r rôl i chi!
Mae swyddogion marchnata aml-sianel yn dylunio, yn adeiladu ac yn gweithredu ymgyrchoedd ar draws amrywiaeth o lwyfannau er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Byddai’r ymgeiswyr delfrydol yn frwd dros gynnwys digidol a’r cyfryngau cymdeithasol, yn rhagweithiol, yn drefnus ac yn awyddus i ddysgu a thyfu ym maes Marchnata – rydyn ni wedi ymrwymo i’ch datblygiad a byddwn wrth eich bodd yn eich gweld yn tyfu
Siawns bod gennych chi ddiddordeb erbyn hyn?
PRIF GYFRIFOLDEBAU
Beth fyddwch chi’n ei wneud ar y brentisiaeth?
Fel Prentis Marchnata Aml-Sianel, bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- Rheoli a gweithredu ymgyrchoedd integredig ar draws sianeli ar-lein ac all-lein
- Defnyddio data ymchwil i lywio penderfyniadau ac i dargedu, cynllunio a chyflawni gweithgarwch marchnata
- Cyhoeddi, monitro ac ymateb i gynnwys golygyddol, creadigol neu fideo drwy wefannau, cyfryngau cymdeithasol/llwyfannau rhannu fideos, llwyfannau all-lein.
- Dadansoddi data i gefnogi gwaith cynllunio cynnwys yn seiliedig ar ddigwyddiadau, achlysuron diwylliannol, a blaenoriaethau’r BBC.
- Paratoi metrigau perfformiad a rhannu gwybodaeth.
- Creu cynnwys effeithiol gan ddefnyddio egwyddorion dylunio ac ysgrifennu copi ar gyfer cyfryngau ar-lein ac all-lein.
Beth fyddwch chi’n ei astudio?
Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster prentisiaeth sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith. Bydd y cwricwlwm yn mynd â chi drwy sawl modiwl craidd, gan gynnwys hanfodion marchnata, dadansoddi, cynllunio a strategaeth, rheoli ymgyrchoedd, cynnwys a chyfathrebu, a dadansoddi a gwerthuso. Cyflwynir y dysgu ar gyfer y cwrs hwn ar-lein.
I gael rhagor o wybodaeth am safon y brentisiaeth y byddwch yn ei hastudio, ewch yma.
I ble y gallai’r rôl fynd â chi?
Bydd y brentisiaeth yn rhoi cipolwg ar hanfodion Marchnata ac yn cynnig profiad ymarferol mewn amrywiaeth o adrannau, gan roi cymaint o flas â phosib ar wahanol swyddogaethau yn y sefydliad.
Mae’r cynllun hwn yn dechrau ym mis Medi 2025 a byddwch ar gontract cyfnod penodol, sy’n golygu bod eich contract am gyfnod y brentisiaeth yn unig. Mae’r cynllun hwn yn para 18 mis.
GWYBODAETH AM Y LLEOLIADAU
Mae amrywiaeth o rolau Swyddogion Marchnata Aml-sianel ar gael ar draws gwahanol adrannau, gan gynnwys: Marchnata, Cynllunio, Digidol a Gyrfaoedd Cynnar.
Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda thimau cyfathrebu mewnol ac allanol ar ymgyrchoedd effaith uchel, yn cysylltu ein gweithlu, yn hyrwyddo cynnwys ac yn amddiffyn enw da corfforaethol y BBC, yn ogystal â chynllunio a rheoli digwyddiadau.
Byddai’r rôl hon yn addas i rywun sy’n frwd dros ymgysylltu â phobl a meithrin perthynas gadarnhaol â thimau a rhanddeiliaid, sy’n gallu addasu i lwyth gwaith a strwythur gweithio amrywiol, ac sy’n defnyddio amrywiaeth eang o gynnwys.
Tra byddwch ar y brentisiaeth hon, gallech fod yn helpu i oruchwylio ymgyrchoedd a phrosiectau cyfathrebu i helpu i sicrhau eu bod yn cyrraedd y bobl iawn, yn helpu i gynnal digwyddiadau ymgysylltu â staff a rhanddeiliaid, ac yn sicrhau bod negeseuon allweddol BBC Cymru Wales yn cael eu cyfleu’n eang.
Os ydych chi’n chwilio am brentisiaeth gyffrous a phrysur mewn sefydliad amrywiol, sy’n cynnig cyfle i gydweithio â thimau ar draws y BBC, dyma’r brentisiaeth i chi.
AI CHI YW’R YMGEISYDD GORAU?
Mae gennym ddiddordeb yn eich angerdd i weithio yn y BBC a’ch brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Rydyn ni’n chwilio am bobl gadarnhaol sy’n dilyn ein gwerthoedd ac yn sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydyn ni’n chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
Drwy gydol y broses ddethol, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o sut rydych chi’n dangos pob un o werthoedd ac ymddygiadau’r BBC. Mae ein gwerthoedd yn sail i bopeth a wnawn. Maent yn diffinio’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan y BBC, a’r hyn y mae’r BBC yn ei ddisgwyl gennych chi. Rhagor o wybodaeth am ein gwerthoedd yma.
Prentisiaid Marchnata Aml-sianel Gwych yw’r rhai sy’n gallu dangos y nodweddion canlynol:
- Gallu datrys problemau a diddordeb brwd mewn llwyfannau cyfryngau a theledu
- Dealltwriaeth sylfaenol o’r dirwedd cyfryngau cymdeithasol
- Awyddus i ddysgu a thyfu mewn amgylchedd deinamig
- Gallu gweithio mewn tîm
- Sgiliau trefnu rhagorol a bod yn dda iawn am ddatrys problemau
- Gallu rheoli nifer o ofynion a therfynau amser
Mae’r cynllun hwn wedi’i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd a bod gennych chi ddiddordeb mewn rolau cynhyrchu yn y BBC, rydyn ni’n argymell eich bod yn gwneud cais am swyddi yn careers.bbc.co.uk
Mae’n rhaid i chi fodloni’r canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:
- Bod yn 18 oed neu’n hŷn pan fydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2025
- Erbyn dechrau’r brentisiaeth ym mis Medi 2025, bod wedi byw yn y DU neu mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) am o leiaf 3 blynedd
- Bod yn gymwys i weithio yn y DU yn llawn amser drwy gydol y contract prentisiaeth
- Peidio â bod yn cymryd rhan mewn cynllun prentisiaeth sy’n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd
I wneud cais am y cynllun hwn, rhaid bodloni’r canlynol hefyd:
- I gwblhau’r brentisiaeth, rhaid meddu ar TGAU Gradd 4/C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg, neu National 5 (Yr Alban) Gradd C, neu gymhwyster cyfatebol. Os nad ydych chi wedi ennill cymwysterau Saesneg a Mathemateg Lefel 2 erbyn dechrau eich prentisiaeth, bydd gofyn i chi gyflawni hyn cyn diwedd eich prentisiaeth pan fyddwch chi’n cwblhau eich asesiad terfynol.
- Peidio â meddu ar gymhwyster Marchnata lefel 3 neu uwch yn barod.
YR HYN Y BYDDWCH CHI’N EI GAEL…
Yn ystod eich prentisiaeth:
- Cyflog cychwynnol o £21,840
- Hyfforddiant gyda’r gorau yn y diwydiant drwy BBC Academy a’n darparwyr dysgu (gallai olygu teithio i leoliadau ledled y DU)
- Rheolwr Tîm ac Arbenigwr Cynllun dynodedig i helpu gyda’ch datblygiad
- Hyfforddiant a Mentora gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant
- Wythnos waith 35 awr, 25 diwrnod o wyliau blynyddol a chynllun pensiwn â buddion wedi’u diffinio, yn ogystal â gofal deintyddol a gofal iechyd rhatach, aelodaeth o gampfa a llawer mwy.
Ar ddiwedd eich prentisiaeth:
- Cymhwyster sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant
- Llawer o brofiad i’ch helpu i chwilio am heriau a chyfleoedd gwaith newydd yn y BBC ac yn y diwydiant ehangach.
- Cymorth a hyfforddiant cyflogadwyedd a rhwydweithio i’ch helpu i sicrhau eich rôl nesaf
How to Apply
CAMAU NESAF
GAIR AM Y BBC
24 total views, 0 today