Who ❤️ PJ →

Full Search

This job listing has expired and may no longer be relevant!
18 Mar 2025

Full-Time Code Assessment Officer

Yolk Recruitment – Posted by Yolk Recruitment Bridgend, Wales, United Kingdom

Job Description

Swyddog Asesu Codau – Contract Tymor Penodol 12 mis – £31,290

Dyddiad Cau: Hanner dydd ar 31 Mawrth 2025.

Y Cyfle

Mae Yolk Recruitment ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dod ynghyd er mwyn dod o hyd i Swyddog Asesu Codau am Gontract Tymor Penodol 12 mis.

Mae’r Ombwdsmon yn gyflogwr delfrydol i’r rhai sy’n chwilio am waith yng Nghymru a thu hwnt, gan ei fod yn cynnig gweithio hybrid a gweithio hyblyg gyda lwfansau gwyliau blynyddol hael, pensiwn y gwasanaeth sifil, DPP ac amrywiaeth eang o fuddion iechyd a lles. Oherwydd natur y swydd hon, rydym yn rhagweld y bydd angen i’r rôl hon ddigwydd o’r swyddfa yn bennaf ar y dechrau.

Mae’r Ombwdsmon wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac yn gwarantu cyfweliadau i ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer dethol.

Y Swydd

Mae hon yn swydd i raddedigion felly bydd yn addas i raddedigion diweddar, ac yn ddelfrydol i rai sydd â gradd yn y gyfraith. Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i aelodau o’r cyhoedd sy’n cysylltu â’r Ombwdsmon a byddwch hefyd yn asesu cwynion sy’n ymwneud â Chodau Ymddygiad:

Asesu a gwneud penderfyniadau ar gwynion yn ymwneud â Chodau Ymddygiad a ddaw i law yr Ombwdsmon
Drafftio a chyhoeddi hysbysiadau perthnasol ynghylch penderfyniadau
Rhoi cyngor ac arweiniad i aelodau o’r cyhoedd
Diweddaru’r system rheoli achosion

Gofynion

Bydd y Swyddog Asesu Codau llwyddiannus yn bodloni’r rhan fwyaf o’r meini prawf canlynol:

Gradd berthnasol (yn y gyfraith yn ddelfrydol).
Y gallu i asesu gwybodaeth gymhleth, gan adnabod materion allweddol yn gyflym wrth ymdrin ag achosion cymhleth er mwyn gwneud penderfyniadau rhesymedig.
Y gallu i chwilio am ffeithiau, dadansoddi gwybodaeth a gwneud argymhellion cadarn.
Gallu cryf i addasu i newid a deall gwybodaeth newydd a newidiadau deddfwriaethol yn gyflym.
Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol rhagorol.

Buddion

Bydd y Swyddog Asesu Codau llwyddiannus yn cael y buddion canlynol:

Cyflog o £31,290
Cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil
32 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc
Cynllun oriau hyblyg
Disgownt wrth ddefnyddio’r gampfa a llawer mwy o fuddion.

Ai dyma’r swydd i chi?

Yolk Recruitment yw unig bartner recriwtio’r Ombwdsmon ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw yr Ombwdsmon ei hun.

Gallwch ofyn am becyn ymgeiswyr sy’n cynnwys y Swydd-disgrifiad a Manyleb y Person yn llawn gan Richard Coombs yn Yolk Recruitment.

Gallwch wneud cais yn y Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.

How to Apply

Richard.Coombs.18989.10594@yolk.aplitrak.com

Job Types: Full-Time. Salaries: 20,000 - 40,000.

73 total views, 0 today