Who ❤️ PJ →

Full Search

This job listing has expired and may no longer be relevant!
18 Mar 2025

Full-Time Improvement and Complaints Standards Manager

Yolk Recruitment – Posted by Yolk Recruitment Bridgend, Wales, United Kingdom

Job Description

Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion – Parhaol – £49,764 – £54,090

Dyddiad Cau: Hanner dydd ar 31 Mawrth 2025.

Y Cyfle

Mae Yolk Recruitment ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dod ynghyd er mwyn dod o hyd i Reolwr Safonau Gwella a Chwynion.

Mae’r Ombwdsmon yn gyflogwr delfrydol i’r rhai sy’n chwilio am waith yng Nghymru a thu hwnt, gan ei fod yn cynnig gweithio hybrid a gweithio hyblyg gyda lwfansau gwyliau blynyddol hael, pensiwn y gwasanaeth sifil, DPP ac amrywiaeth eang o fuddion iechyd a lles. Oherwydd natur y swydd hon, rydym yn rhagweld y bydd angen i’r rôl hon ddigwydd o’r swyddfa yn bennaf ar y dechrau.

Mae’r Ombwdsmon wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn gwarantu cyfweliadau i ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer dethol.

Y Swydd

Bydd y Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion yn arwain ac yn hyrwyddo Awdurdod Safonau Cwynion i Gymru, gan gydweithio â chyrff allanol i roi gweithdrefnau effeithiol ar waith ar gyfer ymdrin â chwynion yn ogystal â rheoli tîm bach.

Sicrhau bod Awdurdod Safonau Cwynion yn sefydlu ei hun fel canolfan arferion gorau wrth ymdrin â chwynion.
Darparu hyfforddiant i gyrff, ochr yn ochr â swyddogion hyfforddi, i wella eu perfformiad wrth ymdrin â chwynion.

Gofynion

Bydd y Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion llwyddiannus yn brofiadol yn y rhan fwyaf o’r elfennau canlynol:

Profiad o reoli llinell, yn ddelfrydol mewn amgylchedd sy’n ymwneud â chwynion neu mewn awdurdod lleol neu yn y sector cyhoeddus ehangach.
Gallu amlwg i feithrin cysylltiadau gwaith cryf gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
Profiad o ymchwil a dadansoddi ansoddol a meintiol.
Profiad o gyflwyno hyfforddiant.
Sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu ac ysgrifennu adroddiadau.

Buddion

Bydd y Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion llwyddiannus yn cael y buddion canlynol:

Cyflog o £49,764 – £54,090
Cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil
32 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc
Cynllun oriau hyblyg
Disgownt wrth ddefnyddio’r gampfa a llawer mwy o fuddion.

Ai dyma’r swydd i chi?

Yolk Recruitment yw unig bartner recriwtio’r Ombwdsmon ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw yr Ombwdsmon ei hun.

Gallwch ofyn am becyn ymgeiswyr sy’n cynnwys y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person yn llawn gan Richard Coombs yn Yolk Recruitment.

Gallwch wneud cais yn y Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.

How to Apply

Richard.Coombs.92672.10594@yolk.aplitrak.com

Job Types: Full-Time. Salaries: 40,000 - 60,000.

Apply for this Job